Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9
Hydref 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5355
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Tynnwyd yr eitem yn ôl a chafodd ei chyflwyno fel datganiad ysgrifenedig
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Dechreuodd yr eitem am 15.12
NDM6824 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6827 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
1. Yn nodi’r diweddariad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb.
2. Yn nodi’r Rhaglen Ddeddfwriaethol.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw adroddiad blynyddol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a'i rhaglen ddeddfwriaethol yn ymdrin â rhai o'r problemau hirsefydlog sy'n wynebu pobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
28 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM6827 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
1. Yn nodi’r diweddariad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb.
2. Yn nodi’r Rhaglen Ddeddfwriaethol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
6 |
5 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6826 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales - a Factfile', a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
7 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am ateb DU gyfan i'r materion a nodwyd yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
33 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6826 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales - a Factfile', a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018.
Yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
6 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Daeth y cyfarfod i ben am 16.45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 10 Hydref 2018